Amdanom ni
Mae eglwys Parc Borras yn un efengylaidd gyda’r nod o wneud disgyblion i Iesu Grist (Mathew 28 ad 19-20) ac i annog credinwyr i dystiolaethu ac i dyfu yn y Ffydd. Nid ydym yn gadael i wahaniaethau enwadol atal unrhyw un sydd sydd wir yn credu rhag derbyn cymundeb wrth Fwrdd yr Arglwydd.
Nid ydym yn perthyn i unrhyw enwad ond mae’r eglwys yn mwynhau cymdeithas gyda sawl grŵp, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys y Gymdeithas o Eglwysi Efengylaidd yng Nghymru, Mudiad Efengylaidd Cymru ac Affinity (y Cyngor Efengylaidd Prydeinig gynt).
Arweinir yr eglwys gan henuriaid ac mae un ohonynt wedi ei neilltuo gan yr eglwys fel gweinidog llawn-amser a chaiff deaconiaid eu hapwyntio i ddelio gyda gwaith gweinyddol yr eglwys.
Mae adeilad yr eglwys yn fodern ac wedi ei chyfarparu’n dda. Gall prif ran yr adeilad, lle mae bedyddfa, gynnwys 200 o bobl ac mae gan yr ysgoldy le i tua 100 o bobl. Mae’r gegin yn gynhwysfawr ac yn cael ei defnyddio’n aml ar gyfer gweithgareddau amrywiol yr eglwys. Gall y maes parcio ddal hyd at 50 o geir.
Caiff pregethau’r Sul i gyd eu recordio ac mae copїau ar gael ar gais. Mae modd gwrando ar neu lawrlwytho pregethau diweddar o’r dudalen‘Sermons’ ar y wefan hon.
Mae gan yr eglwys:
- fynediad i’r adeilad ar un lefel, heb risiau.
- dolen sain ar gael i’r rhai hynny sy’n defnyddio offer clyw.
- doiled i’r anabl a chyfleusterau newid clytiau baban.
- llefydd parcio penodol ar gyfer yr anabl.
- gegin sy’n gallu darparu ar gyfer achlysuron mawr (hyd at 100 o bobl).