Beth gallwch ei ddisgwyl ar eich ymweliad cyntaf?
Ceir cyfle yn ein gwasanaethau Sul i addoli Duw, sydd yn cynnwys gwrando ar bregeth gan bregethwr, gan amlaf ein gweinidog. Mae’n gyfle hefyd i gyfarfod â’n gilydd, i rannu newyddion ac yn enwedig i groesawu ymwelwyr o bell ac agos. Nid oes gennym reolau gwisg, dewch fel yr ydych chi! Cynhelir ein gwasanaethau i gyd trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae’r gwasanaeth yn dechrau gyda’r cyhoeddiadau. Wedyn ceir canu emynau traddodiadol a chyfoes; darlleniad o’r Beibl; gweddi gan y pregethwr ar ran y gynulleidfa ac yna bregeth ar y testun o’r Beibl a ddarllenwyd yn gynt.
Mae ‘r eglwys ar hyn o bryd yn defnyddio Fersiwn Newydd Beibl ‘ King James ’. Mae copїau ar gael ar gyfer ymwelwyr a dyma’r fersiwn a ddefnyddir gan ein Gweinidog tra weithiau’n cyfeirio at fersiynnau eraill.
Mae gwasanaeth arferol yn para tua 75 munud ac mae croeso i bawb sgwrsio gyda’r Gweinidog a chyda’i gilydd ac i ymuno am baned yn yr ysgoldy ar ôl y gwasanaeth nos.
Ddwywaith y mis gweinyddir y cymun (ar y Sul cyntaf a’r trydydd Sul yn y mis). Mae hyn yn ychwanegu 15 munud at y gwasanaeth. Os nad ydych yn gyfawrwydd â’r rhan hon o’n gwasanaeth mae yna groeso i chi aros a gwylio gan adael i’r bara a’r gwin fynd heibio heb deimlo’n anghyfforddus.
Yn ystod y gwasanaeth boreol cymerir y casgliad ar gyfer aelodau arferol yr eglwys sydd yn dymuno cyfrannu yn y modd yma. Nid oes disgwyl i ymwelwyr gyfrannu heblaw eu bod yn dymuno gwneud.
Caiff amryw weithgareddau eraill yr eglwys eu disgrifio mewn mwy o fanylder ar y wefan hon ac mae ‘na groeso mawr i chi ymuno yn y rhai hynny sy’n apelio atoch.